Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Côr B (Cyfanswm: 34)

 
(0, 1) 504 Roedd hynna i gyd yn swnio'n dda!
(0, 1) 505 Gwladgarwr pybyr ddwedech chi,
(0, 1) 506 A thynged Athen yn ing enaid iddo;
(0, 1) 507 A'i ofal beunydd am y tlawd a'r gwan.
(0, 1) 508 Ond cofiwch hyn: does fawr o dro
(0, 1) 509 Ers pan oedd hwn a'i Blaid
(0, 1) 510 Ar fin bradychu'r Ddinas a'i thrigolion oll
(0, 1) 511 I'r Sbartiaid am aur a mantais masnach.
(0, 1) 512 O na, nid ffyliaid ydym!
(0, 1) 513 Ofer disgwyl dim gan hwn a'i griw,
(0, 1) 514 Plaid yr Ychydig a'r Breintiedig Rai,
(0, 1) 515 Plaid elw glwth; Plaid busnes calon-galed.
 
(0, 1) 544 Ond eto i gyd, peth trist yw gweld
(0, 1) 545 Neb dyn o'r fath athrylith fawr
(0, 1) 546 Yn cael ei lusgo gan yr Heddlu Cudd
(0, 1) 547 A'i gladdu'n fyw mewn carchar,
(0, 1) 548 Ynghanol lladron meddw, caridyms —
(0, 1) 549 Gwehilion ein cymdeithas.
(0, 1) 550 Ai dyna'r ffordd mae Athen Fawr yn trin
(0, 1) 551 Y diniweitiaf wron yn ein plith?
(0, 1) 552 A thoc fe ddaw o flaen y Llys
(0, 1) 553 A'r Fainc Ynadon cib-ddall, brwd,
(0, 1) 554 Mor ffyddlon i'r Sefydliad;
(0, 1) 555 Sy'n haeru'n danbaid ymhob Praw,
(0, 1) 556 Fod Deddf uwchlaw Cyfiawnder.
 
(0, 3) 1985 Na, na!
(0, 3) 1986 Dyw hynna ddim yn hollol wir;
(0, 3) 1987 Nid dyna ble Dionysos.
(0, 3) 1988 Y cyfan a ofynnodd inni'n gwrtais oedd
(0, 3) 1989 Ystyried pa mor ymarferol fyddai gofyn ffafr
(0, 3) 1990 Gan wrol arwyr ac arweinwyr Athen gynt,
(0, 3) 1991 Sy bellach yma gyda ni yn Hades,
(0, 3) 1992 Mewn anrhydeddus a breintiedig stâd.
(0, 3) 1993 Ni ofynnir inni wneud dim oll ond hyn.